'Sai'n mynd i ddod ar raglen deledu i amddiffyn Vaughan Gething...dyle fe ddim wedi derbyn yr arian.'
Ymateb Beth Winter yr Aelod Seneddol i'r rhoddion dadleuol dderbyniodd Vaughan Gething yn ystod ei ymgyrch i ddod yn Arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru.
#ybydyneile | @s4c
'Mae na sawl cwestiwn ar bob lefel yma.'
Samuel Kurtz MS sy'n sylwebu ar y rhoddion dderbyniodd Vaughan Gething yn ystod ei ymgyrch i ddod yn Arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru.
#ybydyneile | @s4c
'Mae gennym ni dri arweinydd i gyd mewn sefyllfa dynn'
Yn dilyn wythnos o fwrlwm gwleidyddol, Richard Wyn Jones sy'n dweud bod sefyllfaoedd Vaughan Gething, Rishi Sunak a Humza Yousaf yn rhai bregus iawn
#ybydyneile | @s4c
'Ma'r ddwy lywodraeth yma'n edrych yn ddiymadferth.'
Ymateb @rwynjones i'r newyddion bod TATA wedi gwrthod cynllun gan yr undebau i ddiogelu swyddi.
#ybydyneile | @s4c
'Ble mae'n dynoliaeth ni? Mae'n bolisi ofnadwy'
Barn @bethwintermp ar bolisi Rwanda Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dod yn gyfraith gwlad.
#ybydyneile | @s4c
'Ma 'na le i'r polisi yma...i sicrhau bod bobl yn gallu dod yma'n saff.'
Samuel Kurtz MS sy'n ymateb i bolisi Rwanda Rishi Sunak yn troi yn gyfraith gwlad.
#ybydyneile | @s4c
Ar y soffa heno...
Beth Winter MP a Samuel Kurtz MS fydd yn ymuno gyda Catrin Haf Jones
21:00 ar S4C 🏴
Ar ddiwrnod ei haraith gyntaf yn Nhŷ'r Arglwyddi, Carmen Ria Smith 🇪🇺🏴 fydd yn siarad gyda Catrin Haf Jones yn San Steffan.
21:00 ar S4C 🏴
'Mae bob math o gwestiynau difrifol angen eu hateb.'
Mae'r AS Llafur Beth Winter MP wedi dweud wrth Y Byd yn ei Le fod 'angen ymchwiliad annibynnol' i roddion i ymgyrch y Prif Weinidog Vaughan Gething i fod yn arweinydd y Blaid Lafur.
newyddion.s4c.cymru/article/20880
Y Byd yn ei Le Datganoli Darlledu S4C 🏴 Hi S4C 🏴, a allwch chi ymateb i'm sylw os gwelwch yn dda? Diolch yn fawr
Y Byd yn ei Le Beth Winter S4C 🏴 Diolch Beth Winter MP Mae MrGething yn pardduo enw da y Senedd ar y funud. Mae angen ymchwiliad annibynnol nawr 👿
Y Byd yn ei Le Hefyd ar gael ar S4C Clic, chymod, llwyfan ddigidol y sianel chi'n darlledu arni hi? Datganoli Darlledu
Newyddion S4C Y Byd yn ei Le Da iawn Beth. Barod i ddweud eich barn! Aelodau Llafur o’r Senedd yn sibrwd tu cefn i VG. Beth Winter MP