Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profileg
Newyddion S4C

@NewyddionS4C

Y newyddion a’r straeon gorau o Gymru a'r Byd. Os oes gennych chi stori, cysylltwch â’r tîm 💻📱➡️ [email protected]

ID:202553813

linkhttp://linktr.ee/newyddions4c calendar_today14-10-2010 09:11:05

23,0K Tweets

11,2K Followers

1,6K Following

Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

Mae Jeremy Paxman wedi dweud fod Parkinson's 'yn gwneud i chi ddymuno na chawsoch eich geni' wrth iddo gyflwyno rhestr o argymhellion am y cyflwr i Downing Street.
newyddion.s4c.cymru/article/20609

account_circle
Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

Mae mam i ferch sydd â chyflwr ar yr ymennydd sy'n cyfyngu ar ei bywyd wedi croesawu'r cyhoeddiad y bydd hosbisau yng Nghymru yn derbyn cyfran o £4 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
newyddion.s4c.cymru/article/20627

account_circle
Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

Mae fferm Llyndy Isaf yng nghanol Eryri wedi bod yn nwylo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ers 2012.

Ond fe fydd y fferm nawr yn rhan o gyfres teledu Channel 4 i benderfynu pwy fydd y tenantiaid newydd - ac mae hynny wedi hollti barn.

account_circle
Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

⚽️ Mae Clwb Pêl-droed Forest Green Rovers wedi rhybuddio cefnogwyr i beidio â defnyddio 'iaith gwrth-Gymreig' pan fydd eu tîm yn chwarae yn erbyn Wrecsam ddydd Sadwrn.

newyddion.s4c.cymru/article/20622

account_circle
Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

Mae’r Unol Daleithiau wedi rhybuddio gweithwyr sydd yn y wlad i beidio â chrwydro oherwydd pryderon am ymosodiad ar y wlad gan Iran.

newyddion.s4c.cymru/article/20608

account_circle
Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

Mae dyn 23 oed wedi dioddef anafiadau a all newid ei fywyd mewn gwrthdrawiad yn Sir y Fflint ddydd Iau.

newyddion.s4c.cymru/article/20616

account_circle
Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

Mae’r heddlu wedi ailagor ymchwiliad i honiadau y gallai dirprwy arweinydd y blaid Lafur, Angela Rayner, fod wedi torri cyfraith etholiadol.

newyddion.s4c.cymru/article/20614

account_circle
Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

Mae cwmni deallusrwydd artiffisial sy’n addo creu 50 o swyddi wedi sefydlu swyddfa yn adeilad cyn ysgol uwchradd Gymraeg yn Llandysul.

newyddion.s4c.cymru/article/20611

account_circle
Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

💉 'Mae wedi lleihau trosglwyddiad mewn gwartheg bron i 90%.'

Mae ymchwil newydd yn cynnig gobaith newydd am leihau lledaeniad TB buchol. newyddion.s4c.cymru/article/20612

account_circle
Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

'Efallai na fydd yn eich lladd, ond fe fydd yn gwneud i chi ddymuno na chawsoch eich geni.'

Mae'r cyflwynydd Jeremy Paxman wedi bod yn cyflwyno rhestr o argymhellion am gyflwr Parkinson's i Downing Street.

newyddion.s4c.cymru/article/20609

account_circle
Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

🐐 Ar y creigiau geirwon mae'r hen afr yn crwydro?

Mae gwleidydd wedi dweud nad yw rhyddid geifr Llandudno yn 'gynaliadwy' wedi i rai gael eu lladd mewn gwrthdrawiad car.

newyddion.s4c.cymru/article/20596

account_circle
Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

🎺 'Mae o’n fraint i gynrychioli Cymru'

Mae band pres ieuenctid Seindorf Biwmares yn paratoi i deithio i Lithwania fis nesaf i gystadlu yn erbyn rhai o fandiau gorau’r cyfandir.
newyddion.s4c.cymru/article/20572

account_circle
Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

🏆 Merch ifanc o Bwllheli a wnaeth brofi cyfnod heriol yn ystod ei magwraeth.

🏆 Y cyn is-bostfeistr Alan Bates.

Dyma rai o enillwyr Gwobrau Dewi Sant nos Iau. 👇

newyddion.s4c.cymru/article/20607

account_circle
Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

💦🐑 'Ni wedi cael glaw mawr sawl blwyddyn, ond dim continuous fel hyn'

Mae ffermwr o Geredigion wedi dweud fod un o'r gaeafau gwlypaf ar gofnod wedi golygu tymor ŵyna heriol eleni.

account_circle
Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

📢🎪🎶 Mae trefnwyr gŵyl Tafwyl wedi cyhoeddi pa artistiaid fydd yn ymddangos yn yr ŵyl eleni.
newyddion.s4c.cymru/article/20606

account_circle