Athroniaeth Coleg CC
@athroniaethccc
Cyfrif athroniaeth y Coleg CC. Gwybodaeth i ysgolion, prifysgolion a'r cyhoedd am weithgareddau athronyddol a chyfleoedd i astudio | Philosophy with the CCC
ID: 707888408857804801
10-03-2016 11:18:43
206 Tweet
349 Followers
414 Following
Cofiwch, bydd Llion Wigley yn agor ein cynhadledd ddydd Gwener yma yn trafod agweddau ar ei lyfr arloesol "Yr Anwybod Cymreig" 3yh, Adeilad John Percival, Prifysgol Caerydd. Croeso cynnes i bawb - yn rhad ac am ddim! m.facebook.com/events/7460013…
'Mae dirfawr angen inni gwestiynu tra-arglwyddiaeth y safbwynt empeiraidd, gwyddonol sydd yn mynnu goruchafiaeth' Huw L Williams sy'n trafod syniadau Morgan Llwyd, a pham y dylid gwneud lle i'r enaid yn 2020 pedwargwynt.cymru #yagym
Hyfryd i groesawi Athroniaeth Coleg CC i Ysgol Gymraeg Gwynllyw heddi. Cyfle gwych i Fl.13 trafod athroniaeth o fewn cyd destyn Dinasyddiaeth fyd eang gyda arbenigwyr yn y maes o Brifysgol Caerdydd! 🌍🏴
Llongyfarchiadau gwresog iawn i Dr Huw Williams, Uwch-Ddarlithydd mewn Athroniaeth, Prifysgol Caerdydd Huw L Williams Prifysgol Caerdydd ar ennill Gwobr Gwerddon eleni gyda'i erthygl: ‘Y Llwybr tuag at Heddwch Parhaol: John Rawls a’r Athrawiaeth Rhyfel Cyfiawn’ ow.ly/c3zC50GmoDg
“Defnyddio ysbryd Betty Campbell i’n tywys ni” - Emily Hefyd wythnos yma... 🔹Y Dirprwy Brif Weinidog a ddaeth yn agos i'r brig - Ieuan Wyn Jones 🔹 Holi Cyfarwyddwr Cerddoriaeth newydd Prifysgol Aberystwyth, Iwan Teifion Davies 🎼 🔹 Y peri-menopos yn peri 'embaras' - @dotdavies1
Diolch am y croeso ddoe 6edYGGLlangynwyd ar gyfer sesiwn Fagloriaeth ar Hawliau Amgylcheddol a Dinasyddiaeth Fyd-eang - a chyfle hefyd i son am yr arwr athronyddol lleol, Richard Price o Langeinwyr, dinesydd byd-eang go iawn!
Edrychwch ar yr hyn mae Richard Wyn Jones wedi ailddarganfod a chyflwyno inni yn y Y Traethodydd 👀 Ysgrif i ddilynwyr Urdd Athronyddol ac Athroniaeth Coleg CC - ac i unrhyw un sy'n ymddiddori yn ein hiaith a chenedl - i'w thrysori. Ac rwy'n gweud hynny cyn ei darllen!
Falch iawn i fod yn rhan o raglen y Coleg Cymraeg yn yr Eisteddfod ar y cyd gyda Athroniaeth Coleg CC Bydd Gwynn Matthews, Simon Brooks a Sioned Puw Rowlands yn ymuno â ni ar gyfer sesiwn Dathlu Athroniaeth Gymraeg a thrafod lle'r maes o fewn y byd Cymraeg - ymunwch 1200 dydd Llun!
Byddai'n cyflwyno sgwrs ar ddiwrnod agoriadol yr Eisteddfod am Henry Richard yr arwr lleol, ar stondin Prifysgol Caerdydd * - bydd yn rhoi sylw i'w stori fel aelod blaenllaw, rhyngwladol, y mudiad heddwch cynnar. *Wedi symud i *4yh* i osgoi cyd-daro gyda'r gwasanaeth i gofio Cen.
Dydd Llun am hanner dydd, byddwn yn trafod Athroniaeth a'i lle o fewn y byd Cymraeg gyda Gwynn Matthews, Simon Brooks a Sioned Puw Rowlands, golygydd O’r Pedwar Gwynt Bydd yn gyfle inni hefyd ddathlu cyfraniad Gwynn ac eraill i'r maes, a thalu teyrnged i ddau gyn-Lywydd.
Sgwrs ddifyr am athroniaeth cyfrwng Cymraeg gyda Sioned Puw Rowlands Huw L Williams Simon Brooks a Rhianwen Daniel Athroniaeth Coleg CC Urdd Athronyddol ar stondin #colegcymraeg bore ma
“Mae’r iaith yn rhywbeth sydd yn cydymdreiddio, a sydd mewn rhywfath o gynghanedd gyda’r tir!” Huw L Williams yn trafod J.R. Jones, yr athronydd o Bwllheli, bro'r brifwyl eisteddfod @boimoel Y Lolfa bbc.in/3ryTEhs