Llywodraeth Cymru Rhyngwladol 🏴
@cymrudrosybyd
Cyfrif swyddogol @LlywodraethCym ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol a masnach.
In English 👉 @walesintheworld
ID:1401899305905135627
https://llyw.cymru/rhyngwladol-ue 07-06-2021 13:51:28
1,2K Tweets
340 Followers
192 Following
Dyma Ninian Park Primary a Jane Hutt yn croesawu'r Brenin Letsie III gyda Dolen Cymru Lesotho🎶
Fe gafodd y cyfle i gwrdd â phobl sy’n datblygu cysylltiadau rhwng y gwledydd, ac sy’n cefnogi prosiectau yn Lesotho, fel hyfforddiant iechyd meddwl a mentora athrawon.
#Lesotho200Caerdydd #Caerdydd
Mae Vaughan Gething 🏴 wedi croesawu’r Brenin Letsie III o Lesotho i Gymru 🤝
Mae Cymru a Lesotho - ffrindiau ers dros 4 mlynedd - yn genhedloedd bach ag uchelgais MAWR o ran ynni adnewyddadwy 🇱🇸🏴
#Lesotho200Caerdydd #ynniadnewyddadwy #Caerdydd Dolen Cymru Lesotho
Bu arbenigwyr byd-eang yng Nghaerdydd heddiw ar gyfer #futuregenforum y Cenhedloedd Unedig.
Cymru yw’r unig wlad yn y 🌍 gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gyda Chomisiynydd Annibynnol. Mae'n golygu bod rhaid i benderfyniadau Llywodraeth Cymru heddiw ystyried plant yfory.
Waw! Cynrychiolwyr anhygoel o bob rhan o'r byd yn #FutureGenForum #CymruCan heddiw.
Caiff Jessica McQuade cyfle i rannu hanes WWF Cymru o weithio ar ddatblygu a chyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae’n fraint cael bod yn rhan o stori Cymru. 🏴
Rydym yn croesawu arbenigwyr byd-eang i Fforwm Cenedlaethau’r
Dyfodol gan gynnwys cynrychiolwyr y Cenhedloedd
Unedig. Galwn ar wledydd i gefnogi Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol a chymryd camau i ddysgu gan brofiadau Cymru. #FutureGenForum 🧵
Gwych bod nol yn y Cae Ras heddiw ymysg gwefr a chyffro y cefnogwyr.
There’s so much history and passion in these stands. It's amazing to experience the final game buzz with fans, and to finally meet Rob McElhenney.
Tan tro nesa - see you here next time Ryan Reynolds 👋 🏴
#DiwrnodyDdaear hapus! 🌍
Rydyn ni eisiau gweld Cymru Ddiblastig a nod thema eleni o blaned yn erbyn plastigion yw i feddwl am ddewisiadau amgen call i leihau plastig yn ein bywydau bob dydd.
Rydyn ni eisoes wedi dechrau gwahardd rhai plastigion untro ar gyfer dyfodol gwyrddach
Cenedl heb iaith, cenedl heb galon.
Mae’r ieithoedd sy’n cael eu hanrhydeddu heddiw ar gyfer #UnitedNationsChineseLanguageDay yn cynrychioli dros 5,000 o flynyddoedd o wareiddiad Tsieineaidd.
Mae'r Vaughan Gething 🏴 newydd a Micheál Martin yn parhau i adeiladu ar y cyfeillgarwch dwfn rhwng Cymru ac Iwerddon.
Maent yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio ar y Datganiad a Rennir Iwerddon-Cymru er budd ein dwy wlad.
Diolch - どうもありがとう i Lysgennad Japan Hayashi am fy ngwahodd i ddathliad Sakura Cherry Tree Project yn Sain Ffagan heddiw.
Mae dros 1,000 o'r coed hardd yma bellach wedi'u plannu yng Nghymru; symbol o'r cyfeillgarwch a'r berthynas hir oes rhwng Cymru a Japan 🏴🤝🇯🇵
#DayOfHumanSpaceFlight hapus!
Oeddech chi'n gwybod bod 80% o'r gwydr a ddefnyddir yn y gofod yn dod o Gymru?
Mae ein sector gofod yn hyrwyddo arloesedd, ymwybyddiaeth amgylcheddol a buddsoddiadau strategol, ac mae'n ffynnu ...🚀🌍🏴
Bydd ein swyddfeydd Caerdydd wedi'u goleuo'n borffor heno ar gyfer #DiwrnodYmwybyddiaethAwtistiaeth 💜
Drwy godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth gallwn newid bywydau pobl awtistig ledled Cymru.
Eisiau dysgu mwy am awtistiaeth? Ewch i'r wefan yma 👇
autismwales.org/cy/
Y delyn yw ein hofferyn cenedlaethol ac mae'n cynrychioli Cymru ledled y byd 🌍
Allwch chi ddweud wrthym lle y byddech chi'n dod o hyd i'r cerflun hwn sy'n dathlu ein treftadaeth farddonol a cherddorol?
Awgrym i chi - dydi'r #LleyngNghymru yr wythnos yma ddim yng Nghymru! 🤯