
Cerdd a Drama Creuddyn
@creucerdddrama
Cyfrif trydar swyddogol cyfadran Cerdd a Drama Ysgol Y Creuddyn / Official Twitter Account for Ysgol Y Creuddyn's Music and Drama Faculty 🎶🎭
ID: 2327777171
http://www.ysgolycreuddyn.cymru 06-02-2014 09:29:44
2,2K Tweet
557 Takipçi
342 Takip Edilen

Noson wych yn gwylio 'Ie Ie Ie' gan @TheatrGenCymru. Sioe hynod bwerus a gwerthfawr i'n dysgwyr fel cynulleidfa. Da iawn i dri o'n dysgwyr a gymerodd rhan yn y sioe rhyngweithiol (dau yn unig yn y llun). Pawb wedi mwynhau yn fawr iawn! Ysgol y Creuddyn




🌟Llwyddiant yn Eisteddfod Ddawns Rhanbarthol Urdd Conwy Llongyfarchiadau i'r merched talentog yma: 🥇Grwp Dawnsio HipHop/Stryd/Disgo Bl.7-9 🥇Dawns HipHop/Stryd/Disgo Unigol Bl.7-9 🥇Dawns HipHop/Stryd/Disgo Unigol BL.10-19oed Balch iawn ohonoch! #DawnDysgDaioni






Braint oedd cael cymryd rhan yng nghyngerdd dathlu 75 mlwyddiant addysg Gymraeg yn Llandudno neithiwr. Diolch yn fawr i'r dysgwyr am fod yn lysgengadon mor wych i'r ysgol 🏴 Cerdd a Drama Creuddyn


Diolch Ysgol Gymraeg Morfa Rhianedd am y gwahoddiad i ymuno yn eich cyngerdd dathlu 75 neithiwr!🎉 Diolch hefyd am y cardiau bendigedig 🎨👌🏴 Ysgol y Creuddyn


Myfyrwyr cerdd bl12 yn disgwyl yn eiddgar i groesawu'r siaradwr gwadd i'r seremoni cofnod cyrhaeddiad heddiw. Braint oedd cael cyfarfod Dafydd Iwan 🤩 Ysgol y Creuddyn . #cymreictod #arwr


Llongyfarchiadau mawr i Cadi, Aasha, Misha, Leon, Garmon ac Owain o Ysgol y Creuddyn a fu'n perfformio Nos Lun gyda Gwasanaeth Cerdd yn y Galeri, Caernarfon. Da iawn chi!👏🏼🎶


instagram.com/reel/C8-SBKTIz… Diolch yn fawr i Eli o gwmni Cywaith Dawns am ddod i gynnal gweithdai dawns heddiw gyda Blwyddyn 7 a dosbarth Drama TGAU Bl.10. Cawsom ddiwrnod llawn hwyl a chreadigrwydd. ✨ Ysgol y Creuddyn

Llongyfarchiadau mawr i Côr Glanaethwy ar ennill 'Côr y Byd' yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen International Eisteddfod heno! Gwych gweld dysgwyr o Ysgol y Creuddyn ar y llwyfan!🎉🎶👏🏼🏴



Llongygarchiadau mawr i 11 o ddysgwyr Ysgol y Creuddyn am gynrychioli'r ysgol yng Nghyngerdd Haf @CerddConwyMusic heno yn Ysgol John Bright. Da iawn chi i gyd!🎶👏🏼 #dawndysgdaioni


Mae'r gweithgareddau allgyrsiol yn siapio! Criw gwych wedi dod i'r Côr heddiw. Tro'r bechgyn yfory...dewch i ganu🎤🎶💪 Ysgol y Creuddyn 6ed Ysgol y Creuddyn #dawndysgdaioni


Llongyfarchiadau mawr i ti @RyanVd gan bawb o Ysgol y Creuddyn 🌟🎶
