Dyma lun o Ferched y Wawr, Cangen Glannau Pibwr ar ein gwibdaith flynyddol. Ar Fai 15fed buom ymweld â Chegin Gareth (Richards) yn Llanbedr. Yn y bore, bu Gareth wrthi yn paratoi bwyd ar thema’r Gwanwyn ar gyfer ein cinio a the; ac yn y prynhawn, gwelsom ei ddawn yn gosod blodau.
Dyma rhai llunie unwaith eto o Rhocesi Bro Waldo yn joio nosweth yng nghwmni Eluned Jones yn son am yr amser y mae wedi treulio ym Mhatagonia.
Cawsom tipyn o hwyl!
Aelodau cangen Y Bermo a’r Cylch a cangen Harlech yn mwynhau ymweliad â Gorsaf Bad Achub Abermaw.
Hefyd llun o’r dystysgrif a gawsom yn yr Ŵyl Haf ym Machynlleth sef Clod Uchel am ein rhaglen.
📢PODLEDIAD
Dyma bodediad o erthygl 'Cadw mi gei' gan Dr Eiddwen Jones. Ychydig o hanes y dyweiad 'Csdw mi gei'.
Daw o rifyn Haf 2025 Y Wawr - 228.
youtu.be/ink88VQSEqw
Dyma Glwb Gwawr Glannau Teifi yng nghwmni Nerys Jones ,(merch Annette un o'n haelodau), sy'n hyfforddwraig yn y fyddin. Cawsom sesiwn ihyfforddiant a ioga.
Cangen Nantglyn
Llun yr aelodau fuodd yn teithio yn y bws cymunedol ‘Cart y Plwyf’ i Llanberis. Cawsom baned ym Mhorth Eirias ac ymlaen wedyn a teithio ar y tren ar lan Llyn Padarn, gweld yr hen Ysbyty Chwarel, galw heibio’r goeden unig a diweddu am swper ym Metws y Coed.
Mae aelodau Rhanbarth Glyn Maelor wedi bod yn edrych ‘mlaen ers mis Hydref i dreulio amser yng nghwmni Gwenno Jones Crefftau’r Gelli, i weld a chlywed sut yn union ma’ hi yn creu’r holl bethau bendigedig yn cynnwys y cysgodion lampau.
Daeth tymor Cangen Llangadog a’r Cylch i ben eleni gydag ymweliad â Chaerdydd gan alw’n gyntaf mewn siôp fawr gwerthu celfi ac yn y blaen. Uchafbwynt y dydd oedd cael eu tywys o gwmpas set Pobol y Cwm, a chyfle i sgwrsio â “Cai” a chael cyfle i dynnu ambell lun yn y Deri.
Rhai o aelodau’r gangen ar fin gadael Sain Ffagan ar ôl treulio cwpwl o oriau difyr yno ddoe. Ar ddiwedd y prynhawn, dechrau am adre, gan alw yn Macarthur Glen am rywfaint o siopa!
Cangen Penrhyncoch
Dyma luniau cyfarfod 12fed a Fehefin, noson trefnu rhaglen Newydd, a’r aelodau wedi archebu a derbyn bocs bwyd gan Mel o Aber Catering. Roedd diod a paned ar gael.
📢PODLEDIAD
Dyma bodlediad o erthygl 'Ein Dysgwyr Disglair' - Sian Arwel fu'n sgwrsio gyda Pat Borlace o gangen Llandegfan am ei siwrne i ddysgur' Gymraeg.
Daw o rifyn 228 Y Wawr - Haf 2025.
youtu.be/VHIccAyOlEw
Cynhaliodd Rhanbarth Caerfyrddin Cystadlaethau Sioe Llanelwedd 2025 nos Lun 19eg o Fai yn neuadd hyfryd newydd Llanddarog.
Diolch i bawb a wnaeth gystadlu ac i’r beirniaid Catrin Price, Rhian Bowen a Lloyd Henry.