
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
@metcaerdydd
Dilynwch ni ar Facebook, Instagram, TikTok: @MetCaerdydd, a LinkedIn: @CardiffMet
🗣️ English: @CardiffMet
ID: 918455289879453698
http://www.metcaerdydd.ac.uk 12-10-2017 12:36:19
2,2K Tweet
555 Followers
429 Following



Bydd partneriaeth newydd Met Caerdydd gyda Nutrition X - NX yn gwella cefnogaeth i athletwyr perfformiad yn y Brifysgol trwy helpu myfyrwyr i gael dealltwriaeth ddyfnach o faeth chwaraeon a'i rôl wrth optimeiddio perfformiad athletaidd. Darllenwch sut: bit.ly/3WeezTH


Wrth siarad â BBC Radio Wales, mae Dietegydd a Uwch Ddarlithydd, @dietitiancymru yn pwysleisio'r angen i wella mynediad at fwyd maethlon. Mae hi'n dadlau y dylai hyn fod yn ffocws, yn hytrach na labeli calorïau ar fwydlenni. 📻 Gwrandewch o 1:49:00.bbc.co.uk/sounds/play/m0…


Mewn erthygl Telegraph Sport yn archwilio ei hastudiaeth mewn i straen anymataliaeth wrinol (SUI), mae Darllenydd mewn Symud Dynol a Meddygaeth Chwaraeon, Dr Izzy Moore yn esbonio pam mae niferoedd cynyddol o athletwyr rygbi benywaidd yn profi’r cyflwr. telegraph.co.uk/rugby-union/20…


Llaeth amrwd. A yw'n ddiogel? Ymunodd Dr Ellen Evans, Darllenydd mewn Ymddygiad Diogelwch Bwyd yn ein Canolfan Diwydiant Bwyd Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE â BBC Radio 4 i amlygu sut mae pasteureiddio yn helpu i ddileu bacteria niweidiol. Gwrandewch o 03:16. bbc.co.uk/sounds/play/m0…

Ymunwch â ni ar gyfer Gŵyl Rygbi gyda London Welsh RFC yn ystod Wales Week / London 2025. 🏉 Rydym wrth ein bodd i'ch gwahodd i ddiwrnod arbennig o rygbi a chyffro'r Bencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ddydd Sadwrn, 22 Chwefror. 👉 Cofrestrwch nawr: walesweek.london/cy/beth-sydd-y…


Mae ymchwilwyr o Met Caerdydd yn gweithio gyda HOPE worldwide yn India i addysgu pobl â gwahanglwyf ar bwysigrwydd esgidiau pwrpasol. Nod y prosiect yw gwella iechyd, urddas a symudedd wrth feithrin grymuso o fewn y gymuned. Darllenwch fwy: tinyurl.com/bp68spn8




📢 Yn galw holl arweinwyr BBaChau! Ymunwch â’r digwyddiad ‘Cefnogi BBaChau i gyflymu cynhyrchiant a thwf’ i ddathlu 10fed Pen-blwydd y SmallBusinessCharter. 🥳 📅 6 Chwefror ⏲️ 6yh – 8yh 📍 Ysgol Reoli Caerdydd I ddysgu mwy ac i gofrestru, ewch i: bit.ly/3EovU6j