Urdd Athronyddol
@meddwl
Munud i feddwl ... gan Adran Athronyddol Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru.
ID: 186135742
02-09-2010 17:25:42
688 Tweet
647 Takipçi
810 Takip Edilen
Os ydych chi'n digwydd bod yn Nhregaron wythnos i ddydd Iau yma, mi fuasai'n wych iawn eich gweld yn y sesiwn isod, lle byddaf yn cael y cyfle arbennig i drafod fy nghyfrol academaidd gyntaf efo'r Athro Jerry Hunter (Cymraeg Bangor)!
Falch iawn i fod yn rhan o raglen y Coleg Cymraeg yn yr Eisteddfod ar y cyd gyda Athroniaeth Coleg CC Bydd Gwynn Matthews, Simon Brooks a Sioned Puw Rowlands yn ymuno â ni ar gyfer sesiwn Dathlu Athroniaeth Gymraeg a thrafod lle'r maes o fewn y byd Cymraeg - ymunwch 1200 dydd Llun!
Byddai'n cyflwyno sgwrs ar ddiwrnod agoriadol yr Eisteddfod am Henry Richard yr arwr lleol, ar stondin Prifysgol Caerdydd * - bydd yn rhoi sylw i'w stori fel aelod blaenllaw, rhyngwladol, y mudiad heddwch cynnar. *Wedi symud i *4yh* i osgoi cyd-daro gyda'r gwasanaeth i gofio Cen.
Dydd Llun am hanner dydd, byddwn yn trafod Athroniaeth a'i lle o fewn y byd Cymraeg gyda Gwynn Matthews, Simon Brooks a Sioned Puw Rowlands, golygydd O’r Pedwar Gwynt Bydd yn gyfle inni hefyd ddathlu cyfraniad Gwynn ac eraill i'r maes, a thalu teyrnged i ddau gyn-Lywydd.
Sgwrs ddifyr am athroniaeth cyfrwng Cymraeg gyda Sioned Puw Rowlands Huw L Williams Simon Brooks a Rhianwen Daniel Athroniaeth Coleg CC Urdd Athronyddol ar stondin #colegcymraeg bore ma
📢📢Cyhoeddi Cynhadledd er cof am yr Athronydd Walford Gealy: Crefydd, Iaith a Hunaniaeth 📢📢 Dydd Sadwrn y 13eg o Fai yn Aberystwyth, gyda'r Athro Mererid Hopwood yn trafod ei llyfr, Dychmygu Iaith. Am fanylion ac archebu tocynnau: tocyn.cymru/cy/event/83806… Insta - TocynCymru
“Mae’r iaith yn rhywbeth sydd yn cydymdreiddio, a sydd mewn rhywfath o gynghanedd gyda’r tir!” Huw L Williams yn trafod J.R. Jones, yr athronydd o Bwllheli, bro'r brifwyl eisteddfod @boimoel Y Lolfa bbc.in/3ryTEhs
Yn rhifyn haf O’r Pedwar Gwynt rwy’n trafod ‘Trallod y Gymraeg’ yn fy ngholofn Socrates ar y Stryd. Mae’n myfyrio ar gyn lleied o ymateb sydd wedi bod i ganlyniadau echrydus y cyfrifiad o safbwynt yr iaith. “dim crochlefain am atebion, neb yn cwestiynu dividend datganoli” 1/11
Ddydd Gwener yma, am 1230 ar stondin @yLolfa, bydd yr Urdd Athronyddol yn dosbarthu copiau yn rhad ac am ddim o'r gyfrol Argyfwng Hunaniaeth a Chred, Ysgrifau ar Athroniaeth JR Jones. Bydd yn cydfynd gyda sgwrs ar JR rhwng Simon Brooks, Richard Glyn Roberts a Huw L Williams
Braint mawr cael cyfrannu pennod i gyfrol gyfarch Gwynn Matthews ar J. R. Jones a (gwrth) awdurdodaeth yng Nghymru, 1930-1970 yng nghyfres Astudiaethau Athronyddol Urdd Athronyddol. Rwy'n trafod gwrth-ffasgaeth, syniadau Wilhelm Reich, Erich Fromm ac Ysgol Frankfurt a lot o bethe eraill!