MyWCaerdydd
@mywcaerdydd
Merched y Wawr Cangen Caerdydd Cwrdd yn fisol yng Nghyncoed. Criw hwyliog a chroesawus. Rhaglen ddifyr ac amrywiol.
ID: 1171539295896788992
10-09-2019 21:42:15
421 Tweet
46 Followers
59 Following
Mor braf cael cwmni ein gilydd heno yng Nghyncoed. Criw da yn mwynhau sgwrs ddifyr yr afieithus Rhys ab Owen AS/MS yn trafod ymchwil ei dad Owen John Thomas ar hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd. #chwaeroliaeth
Ymlaen at 2022 Mae Côr Hen Nodiant yn awyddus i ddenu aelodau newydd, yn arbennig tenoriaid a baswyr. Mae gofyn i’r aelodau fod yn 60 oed erbyn Awst 2il 2022. Os oes diddordeb gennych ymuno - cysylltwch â [email protected]. @poblcaerdydd
Mis o #garedigrwydd bore coffi Macmillan Cancer Support a drefnwyd gyda Eluned Davies- Scott a chefnogaeth Merched y Wawr Tonysguboriau #diolch #ystyriol
Diwrnod hanesyddol a thestun dathlu : y gofeb gynta i ferch go iawn yng Nghymru. Gwerth atgoffa ein hunain o gyfraniad pwysig Betty Cambell, prifathrawes du cynta Cymru. Edrych mlaen i’r cofebau eraill i ferched ledled Cymru.#chwaeroliaeth Merched y Wawr bbc.co.uk/cymrufyw/58739…
Gwych ferched Radyr ! Merched y Wawr Rhanbarth De-Ddwyrain a De Powys Merched y Wawr
Un o fanteision zoom cael picio at MyW y Garth i glywed Lleucu Roberts yn cael ei holi gan Glenys Roberts am ei dwy nofel diweddar. Sgwrs ddifyr dros ben. ( gneud hyn a phipio ar y peldroed ar y teledu run pryd! ) Merched y Wawr Rhanbarth De-Ddwyrain a De Powys
Roedd yn fraint heno gwrando ar sgwrs ysbrydoledig Sally Holland Comisiynydd Plant | Children's Commissioner Wales a’i negeseuon pwysig am hawliau plant, effaith y pandemig ar blant a phobl ifanc ond yn bwysica ei chrêd y bydd ein plant a phobl ifanc er gwaetha popeth yn genhedlaeth gryf . Merched y Wawr
MyWCaerdydd Merched y Wawr Diolch am y gwahoddiad i'r cyfarfod neithiwr. Roedd y cwestiynau a'r sgwrs yn ddiddorol iawn.
Rydym yn falch o gyhoeddi bod Heulyn Rees wedi’i benodi fel Prif Weithredwr Menter Caerdydd Menter Bro Morgannwg Dywed Heulyn; “Mae'n fraint ac anrhydedd. Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio â staff a gwirfoddolwyr angerddol yr elusennau i gynyddu a hyrwyddo defnydd y Gymraeg”