
Add Gorff Maes y Gwendraeth
@addgorffmaes
Newyddion ac uchafbwyntiau Adran Addysg Gorfforol Ysgol Maes y Gwendraeth. News and highlights from the PE department at Ysgol Maes y Gwendraeth.
ID: 1903588940
25-09-2013 09:41:16
4,4K Tweet
2,2K Followers
211 Following









🏏 Diwrnod y gêm! Mae ein tîm Criced Blwyddyn 8 yn barod am eu gêm gyntaf o’r tymor heddiw yn erbyn ein ffrindiau YsgolDyffrynAman PE Pob lwc i bawb — ewch amdani bois! 💪🔥



🏏 Ymdrech wych gan dîm criced Blwyddyn 8 heddiw yn eu gêm agoriadol y tymor yn erbyn YsgolDyffrynAman PE ! Llawer o bethau cadarnhaol i’w gymryd ymlaen a digon i adeiladu arno. Diolch yn fawr i YDA am y gêm gystadleuol a chroesawgar. Da iawn bois👏🙌


⚽️ Capten Cymru o dan 14! Llongyfarchiadau enfawr i Noah Anyadike a gynrychiolodd dîm Welsh Schools' F.A. U14 heddiw mewn gêm ryngwladol yn erbyn @isfafootbal 🌍 Mae ei ymroddiad, ei waith caled, a’i dalent yn ysbrydoliaeth.👏💪 Dal ati i ddisgleirio, Noah – dyma’r dechrau’n unig!



Diwrnod Mawr i Flwyddyn 7! Mae tîm Blwyddyn 7 yn barod am eu gêm gyfeillgar gyntaf heddiw YsgolDyffrynAman PE ! Dymuniadau gorau pawb– ewch amdani, rhowch eich gorau, a chofiwch fwynhau'r profiad!



Da iawn Blwyddyn 7! 👏 Perfformiad gwych yn eu gêm gyfeillgar gyntaf heddiw yn erbyn tîm talentog ac eithriadol YsgolDyffrynAman PE Roedd yn her go iawn, ond dangosodd ein chwaraewyr ymdrech, brwdfrydedd ac ysbryd gwych. Llawer i fod yn falch ohono – dyfodol addawol iawn! #fiywmaes


Gem wych heddiw i’n Blwyddyn 9 yn erbyn ein ffrindiau Iechyd a Lles Bro Dinefwr — wedi’i chwarae mewn ysbryd arbennig ac wedi’i fwynhau gan bawb. 👏 Llongyfarchiadau mawr i’r capten Ifan Davies a ymddeolodd ar 50. Perfformiad tîm rhagorol! 💪🏏



🏏Llongyfarchiadau i’n tîm criced Blwyddyn 7 ar eu perfformiad gwych heddiw – buddugoliaeth haeddiannol! Diolch mawr Dyffryn Taf PE, Health, Well-being and Sport am y gêm – braf gweld ysbryd chwaraeon mor gadarnhaol ar y cae. 👏


Am ddiwrnod o bêl-droed @ Bro Myrddin! ⚽☀️ Llongyfarchiadau mawr bois bl8 am eu hymdrech wych yn y twrnamaint heddiw! Diolch enfawr i staff a blwyddyn 12/13 YSGOL BRO MYRDDIN 🏴 am drefnu twrnamaint mor wych. Da iawn bois – rhagorol🙌
