Eisteddfod Marian-glas (@eisteddfodmari1) 's Twitter Profile
Eisteddfod Marian-glas

@eisteddfodmari1

Eisteddfod Ieuenctid Marian-glas, Ynys Môn.

Nod yr eisteddfod ydi rhoi llwyfan i ddoniau ifanc.

ID: 758637874791186432

calendar_today28-07-2016 12:18:59

539 Tweet

288 Takipçi

334 Takip Edilen

Eisteddfod Marian-glas (@eisteddfodmari1) 's Twitter Profile Photo

Cofiwch mai dydd Mercher nesaf, 24 Ebrill ydi dyddiad cau'r adran celf a chrefft. Dewch â'ch cynnyrch i Hen Ysgol Marian-glas rhwng 4 a 6 y p'nawn ar y dydd Mercher! Rhannwch y sôn os gwelwch yn dda!

Cofiwch mai dydd Mercher nesaf, 24 Ebrill ydi dyddiad cau'r adran celf a chrefft. Dewch â'ch cynnyrch i Hen Ysgol Marian-glas rhwng 4 a 6 y p'nawn ar y dydd Mercher!

Rhannwch y sôn os gwelwch yn dda!
Eisteddfod Marian-glas (@eisteddfodmari1) 's Twitter Profile Photo

Pleser gwirioneddol ydi cyhoeddi y bydd yr actor o Frynteg a chyn-gystadleuydd selog Eisteddfod Marian-glas, Gwïon Morris Jones yn un o arweinwyr yr Eisteddfod eleni! Ac yntau am ymddangos yn y gyfres newydd o #DrWho, bydd hi'n wych gweld Gwïon, cyn hynny, yn ôl ar lwyfan y Marian eto!

Pleser gwirioneddol ydi cyhoeddi y bydd yr actor o Frynteg a chyn-gystadleuydd selog Eisteddfod Marian-glas, Gwïon Morris Jones yn un o arweinwyr yr Eisteddfod eleni!

Ac yntau am ymddangos yn y gyfres newydd o #DrWho, bydd hi'n wych gweld Gwïon, cyn hynny, yn ôl ar lwyfan y Marian eto!
CymdeithasSteddfodau (@steddfota16) 's Twitter Profile Photo

Anodd credu ein bod yn carlamu at ddiwedd Ebrill yn barod ac yn edrych mlaen at steddfodau ola’r mis dydd Sadwrn yma! ⭐️Y Groeslon ⭐️Betws yn Rhos ⭐️Eisteddfod Marian-glas Cofiwch gefnogi os gallwch! 🎶🎤🎭🎺🏆 #cystadlu #cynulleidfa #steddfota🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Anodd credu ein bod yn carlamu at ddiwedd Ebrill yn barod ac yn edrych   mlaen at steddfodau ola’r mis dydd Sadwrn yma!

⭐️Y Groeslon
⭐️Betws yn Rhos
⭐️Eisteddfod Marian-glas

Cofiwch gefnogi os gallwch! 🎶🎤🎭🎺🏆 #cystadlu #cynulleidfa #steddfota🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
Eisteddfod Marian-glas (@eisteddfodmari1) 's Twitter Profile Photo

Cofiwch ddod â'ch gwaith celf, arlunio, ffotograffiaeth a thecstiliau draw i Hen Ysgol Marian-glas nos fory (nos Fercher 24 Ebrill) rhwng 4 a 7 o'r gloch! Mae dal amser ichi greu rhywbeth - cymerwch gip ar y rhestr testunau! steddfota.cymru/wp/wp-content/… A hei lwc ichi! AD plis! 😊

Cofiwch ddod â'ch gwaith celf, arlunio, ffotograffiaeth a thecstiliau draw i Hen Ysgol Marian-glas nos fory (nos Fercher 24 Ebrill) rhwng 4 a 7 o'r gloch!

Mae dal amser ichi greu rhywbeth - cymerwch gip ar y rhestr testunau!

steddfota.cymru/wp/wp-content/…

A hei lwc ichi!

AD plis! 😊
Eisteddfod Marian-glas (@eisteddfodmari1) 's Twitter Profile Photo

Mae Marian-glas yn ei ogoniant heddiw ac yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu pawb i'w Eisteddfod ddydd Sadwrn, 27 Ebrill. Dewch yn llu!

Mae Marian-glas yn ei ogoniant heddiw ac yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu pawb i'w Eisteddfod ddydd Sadwrn, 27 Ebrill. Dewch yn llu!
Barddas (@trydarbarddas) 's Twitter Profile Photo

🌿✨• GALWAD AGORED •✨🌿 Gwahoddir beirdd benywaidd o bob cefndir i gyflwyno cerddi gwreiddiol i'w hystyried ar gyfer blodeugerdd arfaethedig gyda Chyhoeddiadau Barddas. Y golygydd yw ein Bardd Plant Cymru presennol, Nia Morais. ✨• Lledaenwch yr alwad yn eang! •✨

🌿✨• GALWAD AGORED •✨🌿

Gwahoddir beirdd benywaidd o bob cefndir i gyflwyno cerddi gwreiddiol i'w hystyried ar gyfer blodeugerdd arfaethedig gyda Chyhoeddiadau Barddas. Y golygydd yw ein Bardd Plant Cymru presennol, Nia Morais.

✨• Lledaenwch yr alwad yn eang! •✨
Eisteddfod Marian-glas (@eisteddfodmari1) 's Twitter Profile Photo

Mae Steddfod y Canmlwyddiant wedi cyrraedd! Dewch yn llu i Heno Ysgol Marian-glas o 1yp heddiw am wledd o ddathliad! Yn y cyfamser, mi fedrwch ddarllen mwy am hanes y Steddfod ar wefan #Môn360 Golwg360!

Mae Steddfod y Canmlwyddiant wedi cyrraedd! Dewch yn llu i Heno Ysgol Marian-glas o 1yp heddiw am wledd o ddathliad!

Yn y cyfamser, mi fedrwch ddarllen mwy am hanes y Steddfod ar wefan #Môn360 Golwg360!
Eisteddfod Marian-glas (@eisteddfodmari1) 's Twitter Profile Photo

Mae'r Steddfod wedi hen ddechrau ac mae hi'n chwip o un! Cofiwch fod yna luniaeth ar gael hefyd. Mae Caffi-fan y Marian yma rŵan yn gwerthu brechdanau, cacennau, a hot dogs, ymysg pethau eraill! Ac mi fydd fan Tebot Pridd ar y Marian o tua 4 o'r gloch tan ddiwedd y cystadlu!

Mae'r Steddfod wedi hen ddechrau ac mae hi'n chwip o un!

Cofiwch fod yna luniaeth ar gael hefyd. Mae Caffi-fan y Marian yma rŵan yn gwerthu brechdanau, cacennau, a hot dogs, ymysg pethau eraill!

Ac mi fydd fan Tebot Pridd ar y Marian o tua 4 o'r gloch tan ddiwedd y cystadlu!
Eisteddfod Marian-glas (@eisteddfodmari1) 's Twitter Profile Photo

Mae 'na deilyngdod! Llongyfarchiadau enfawr i Lleucu Hughes o Lanuwchllyn ar ennill Tlws yr Ifanc er cof am Robert John Williams, Celt o Fôn, o Draeth Bychan! A diolch o galon i'r Priflenor Sonia Edwards am y feirniadaeth gynnes ac anogol!

Mae 'na deilyngdod!

Llongyfarchiadau enfawr i Lleucu Hughes o Lanuwchllyn ar ennill Tlws yr Ifanc er cof am Robert John Williams, Celt o Fôn, o Draeth Bychan!

A diolch o galon i'r Priflenor Sonia Edwards am y feirniadaeth gynnes ac anogol!
Eisteddfod Marian-glas (@eisteddfodmari1) 's Twitter Profile Photo

Diolch o galon i Teleri Haf am fod yn Llywydd y Prynhawn ac am anerchiad ysbrydoledig iawn! Mae cyfleoedd mae eisteddfodau yn eu cynnig yn amhrisiadwy, boed wrth lenydda, perfformio, neu greu.

Diolch o galon i Teleri Haf am fod yn Llywydd y Prynhawn ac am anerchiad ysbrydoledig iawn!

Mae cyfleoedd mae eisteddfodau yn eu cynnig yn amhrisiadwy, boed wrth lenydda, perfformio, neu greu.
Eisteddfod Marian-glas (@eisteddfodmari1) 's Twitter Profile Photo

Mae 'na deilyngdod eto! Llongyfarchiadau enfawr Elain Gwynedd am ennill Cadair y Canmlwyddiant! Rhoddwyd y Gadair gan Olwen Canter a Thlws y Tegeirian a'r wobr ariannol gan deulu'r diweddar Margaret a John Parry; a'r beirniad, Sonia Edwards, wedi ei phlesio yn arw.

Diolch o waelod calon i Gaffi Bach y Bocs Oriel Môn am bobi'r gacen yma yn rhodd i'r Eisteddfod. Cacen y Canmlwyddiant heb os, ac roedd hi'n flasus tu hwnt! Mi rannwyd darn â phawb oedd yng nghyfarfod yr hwyr a chanwyd Pen-blwydd Hapus i'r Steddfod yng nghyfarfod y prynhawn.

Pob lwc i'r holl eisteddfodau yma sy'n digwydd dros y Sul, ac yn enwedig, i Eisteddfod Mon! Os medrwch, ewch draw i Ysgol Uwchradd Bodedern ddydd Sadwrn yma, ar gyfer prifwyl yr Ynys. Mi fydd 'na wledd yn eich aros a'r croeso cynhesa' yng Ngwlad y Medra! #yagym

Eisteddfod Marian-glas (@eisteddfodmari1) 's Twitter Profile Photo

**CYHOEDDIAD CYFFROUS** Cynhelir @steddfodmarian eleni ar nos Wener, 2 Mai 2025 yn Hen Ysgol Marian-glas, Ynys Môn! Bydd mwy o wybodaeth gyda hyn! 🪻🎤📚🎭🎨🎷🥁🎊 Rhannwch y sôn os gwelwch yn dda a nodwch y dyddiad!

**CYHOEDDIAD CYFFROUS**

Cynhelir @steddfodmarian eleni ar nos Wener, 2 Mai 2025 yn Hen Ysgol Marian-glas, Ynys Môn!

Bydd mwy o wybodaeth gyda hyn! 🪻🎤📚🎭🎨🎷🥁🎊

Rhannwch y sôn os gwelwch yn dda a nodwch y dyddiad!