✏️ Mae sesiynau #criwcelf 𝙷𝚞𝚠 𝙰𝚊𝚛𝚘𝚗 wedi cael eu gwylio dros 30,000 o weithiau ers mis Mawrth! Waw!
✏️ Mewn partneriaeth rhwng
MelltenCip yr Urdd a @llyfraucymru, mae Huw yn dod â fideo newydd sbon i chi bob p'nawn am 3.
Gwyliwch yma👇
urdd.cymru/criw-celf
Mewn ymateb i'r addasiadau yn ein bywydau ledled y byd mae unigolion wedi bod bod yn creu celfyddyd o bob math. Her disgyblion blwyddyn 9 oedd creu darlun ar y thema 'Newydd Fyd'.
Oeddech chi'n gwybod fod gennym Ffotograffwyr gwych ym mlwyddyn 8? Y dasg oedd tynnu lluniau 'O Fewn Ffram' wedi'i ysbrydoli gan y Ffotograffydd Dan Ginn.
Diolch i Tara Roberts, Jac Burgess, Heidi Morris a Bronwen Thomason am rannu'r lluniau yma gyda ni.
Yn olaf, rhaid canmol y ffotograffwyr canlynol am ddefnyddio llygaid artistig iawn i dynnu'r lluniau yma - Rhys Keeting, Oliver Baines a Garmon Edwards-Jones.
Yn ddiweddar astudiodd blwyddyn 7 gwaith Paul Giovanopolous. Yr her oedd dewis darlun enwog unrhyw arlunydd ac yna dylunio llygad sy'n defnyddio prif nodweddion y gwaith e.e. lliw, patrwm. Dilynwch siwrne Brychan Hughes wrth iddo gyflawni'r dasg oedd wedi'i ysbrydoli gan Banksy.
Dychmygwch fyd yn llawn anifeiliaid wedi eu cymysgu gyda ei gilydd - 'Rhyfedd o Fyd'. Dyma anifail hybrid Jamie Jones bL.8. Ei enw yw ELICIWIOD. Gwaith gwych!
Mae disgyblion bl.10 Celf a Dylunio wrthi'n datblygu brasluniau ar gyfer dylunio darn terfynol ar gyfer eu gwaith cwrs TGAU. Dyma un o frasluniau rhagorol Anna Wood.
Fel rhan o'r gwaith celf 'Iach o Feddwl' wythnos yma mae yna dasg ymestynnol :-
Dyluniwch symbol ac arwyddair addas i ymfalchio ac i gynrhychioli'r gefnogaeth fugeiliol sydd yma'n Ysgol Glan Clwyd.
Anfonwch eich syniad atom ar Trydar @celfglanclwyd neu Google Classroom.
Llongyfarchiadau mawr i ddisgyblion Celf a Graffeg, UG a Safon Uwch ar eich canlyniadau gwych heddiw! Dymuniadau gorau i blwyddyn 13 ar gyfer y dyfodol. Rydym yn falch iawn ohonoch i gyd!🌈🎉🎈😃
Llongyfarchiadau mawr i'r holl ddisgyblion TGAU Celf a Dylunio am ennill canlyniadau rhagorol. Dymuniadau gorau i pob un ohonoch yn y dyfodol. Gwych! 🎇🎈😃🌈