YGRhydaman
@YGRhydaman
Dyffryn llawn dysg a chwerthin iach, a thân dros yr iaith ym mhob plentyn bach.
ID:750730878536605696
06-07-2016 16:39:24
2,8K Tweets
532 Followers
0 Following
Mwy o berfformiadau gwych yn Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau ym Meifod heddiw. Da iawn wir i Mili-Wen ar yr unawd a’r unawd cerdd dant, ac i’n parti deulais ni. Arbennig! Balch iawn ohonoch chi gyd 💫
Perfformiadau arbennig gan Macsen a Cadi Bryn yn yr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau ym Meifod heddiw. Balch iawn o’r ddau ohonoch chi - da iawn wir 💫
Da iawn i bawb a gystadlodd gyda’u gwaith Celf a Chrefft yn yr Urdd eleni. Cafwyd llawer o lwyddiant ar draws yr ysgol yn y rownd rhanbarthol, a noson wobrwyo hyfryd wythnos yma - da iawn chi 👏🎨⭐️ Urdd Myrddin
Roedd hi’n bleser mawr i groesawu ein ffrindiau o Batagonia i’r ysgol prynhawn ‘ma, yn enwedig ar ôl cwrdd mewn galwad dros y we yn gynharach yn y flwyddyn. Am bleser, diolch am eich cwmni 💚🏴🇦🇷MudiadMeithrin Ysgol Gymraeg Y Gaiman Ysgol y Cwm Ysgol Yr Hendre Dewch nôl i’n gweld cyn hir 💚
Merched Adran Gwynfryn wedi mwynhau chwarae criced gyda Criced Cymru / Cricket Wales 🏏🏴 ac Actif Sir Gâr yng Nghaerfyrddin heddiw. Da iawn ferched 🏏 Wrth eu bodd ar y siwrne nôl ar y bws hefyd! 😍
Pob lwc i’r bechgyn yn Aberystwyth yn rownd derfynol rygbi 7 bob ochr Chwaraeon yr Urdd yn Aberystwyth heddiw. Amdani bois! 🏉💚
Llongyfarchiadau fechgyn am ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth rygbi Urdd Myrddin heddiw. Ymlaen â ni i Aberystwyth 🏉⭐️👏