Newyddion S4C (@newyddions4c) 's Twitter Profile
Newyddion S4C

@newyddions4c

Y newyddion a’r straeon gorau o Gymru a'r Byd. 💻📱 Stori? Ebostiwch [email protected]

ID: 202553813

linkhttp://linktr.ee/newyddions4c calendar_today14-10-2010 09:11:05

25,25K Tweet

11,11K Followers

1,1K Following

Newyddion S4C (@newyddions4c) 's Twitter Profile Photo

🏉 Fe fydd Prif Hyfforddwr y Gweilch, Toby Booth, yn gadael y rhanbarth ar ddiwedd y tymor. Mark Jones fydd yn cymryd yr awenau gyda Justin Tipuric, sydd yn ymddeol o chwarae ar ddiwedd y tymor, yn ei gynorthwyo. newyddion.s4c.cymru/article/23678

Newyddion S4C (@newyddions4c) 's Twitter Profile Photo

Caerdydd yw'r lle mwyaf poblogaidd yng Nghymru i'r rhai sy'n prynu tŷ am y tro cyntaf, yn ôl ymchwil newydd. Ond i'r myfyriwr Gareth Jones, mae prynu tŷ yn teimlo'n bell o'i afael.

Newyddion S4C (@newyddions4c) 's Twitter Profile Photo

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth yn dilyn adroddiad o fyrgleriaeth honedig yn adeilad Coleg Harlech yn Harlech fis diwethaf. newyddion.s4c.cymru/article/23673

Newyddion S4C (@newyddions4c) 's Twitter Profile Photo

🎭 'Nid oedd y penderfyniad yn un hawdd.' Bydd corws Opera Cenedlaethol Cymru yn mynd ar streic yn sgil anghydfod dros swyddi a chyflogau. newyddion.s4c.cymru/article/23675

Newyddion S4C (@newyddions4c) 's Twitter Profile Photo

🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 'Bob amser ni’n pasio ein gilydd ni’n cael sgwrs yn y Gymraeg.' 'Byd bach' oedd union eiriau athro o Lanrug ar ei ddiwrnod cyntaf mewn ysgol yn Bankok wedi iddo sylweddoli bod ei ddisgybl, Alis, hefyd yn dod o Gymru. newyddion.s4c.cymru/article/23669

Newyddion S4C (@newyddions4c) 's Twitter Profile Photo

⛰️ 'Gobeithio y byddai’r bobl sydd wedi dod i Bonty ar gyfer yr Eisteddfod wedi gweld pa mor hardd yw’r Cymoedd' Mae un o drefnwyr gŵyl fwyd yng Nghwm Cynon wedi dweud ei bod yn gobeithio y bydd pobl yn 'awyddus i ddychwelyd' i'r ardal wedi'r Brifwyl. newyddion.s4c.cymru/article/23666

Newyddion S4C (@newyddions4c) 's Twitter Profile Photo

⚠️⛈️ Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd newydd i rannau o Gymru ar gyfer dydd Sadwrn a Sul ar ôl llifogydd yn y de nos Wener. newyddion.s4c.cymru/article/23686

Newyddion S4C (@newyddions4c) 's Twitter Profile Photo

✈️🚫 ‘Do not come to the airport’ Fe gafodd rhai o gefnogwyr y Wal Goch wybod nos Wener bod eu taith ar gyfer gêm Cymru oddi cartref yn erbyn Montenegro ddydd Llun wedi'i ganslo oherwydd bod 'adar wedi taro'r awyren'. newyddion.s4c.cymru/article/23688

Newyddion S4C (@newyddions4c) 's Twitter Profile Photo

🗣️ 'Mae'n rhywbeth dydw i erioed wedi'i wneud.' Mae penderfyniad rheolwr tîm pêl-droed Lloegr, Lee Carsley, i beidio canu ‘God Save the King’ wedi hollt barn. newyddion.s4c.cymru/article/23689

Newyddion S4C (@newyddions4c) 's Twitter Profile Photo

🧑‍🏫 'Byddai cael adeilad sy’n hygyrch ym mhob man yn newid byd iddo.' Mae dros 300 wedi cymryd rhan mewn gorymdaith yn Llanelli ddydd Sadwrn yn galw am ysgol newydd i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. newyddion.s4c.cymru/article/23679

Newyddion S4C (@newyddions4c) 's Twitter Profile Photo

'Roedd Islwyn yn amaethwr heb ei ail ac yn ymfalchïo yn ansawdd ei stoc' Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ffermwr 'gweithgar' a 'chydwybodol' fu farw mewn digwyddiad yn ardal Y Bala. newyddion.s4c.cymru/article/23659

Newyddion S4C (@newyddions4c) 's Twitter Profile Photo

🟢 Mae arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru Anthony Slaughter wedi dweud y bydd gyda nhw aelod yn Senedd Cymru yn 2026. newyddion.s4c.cymru/article/23692

Newyddion S4C (@newyddions4c) 's Twitter Profile Photo

🌊 'Mae'n dangos nad ydych chi'n gwybod yn iawn beth rydych chi'n mynd i’w wynebu' Daeth bad achub Llandudno ar draws dyn oedd yn cael ei lusgo gan y llanw allan i’r môr bnawn Gwener a hynny drwy siawns. newyddion.s4c.cymru/article/23690

Newyddion S4C (@newyddions4c) 's Twitter Profile Photo

🛍️💄 Fe fydd y siopau The Body Shop sydd yn weddill yng Nghymru yn aros ar agor wedi i’r cwmni gael ei achub o ddwylo’r gweinyddwyr. newyddion.s4c.cymru/article/23691