Heledd Cynwal
@HCynwal
Mam i dri a Wil y Ci x Cyflwynydd/ Presenter on @S4C @CynefinS4C ❤️ Cymru 🏴
ID:1437322850126422016
13-09-2021 07:50:59
1,0K Tweets
1,8K Followers
566 Following
‘Ma ni griw o bobl sbeshal!❤️
Criw #borecothi ar Radio Cymru ..mor weithgar a chefnogol bob tro, wrth y modd a nhw!🌟
Diolch am y croeso, Shân Cothi nôl gyda chi wthnos nesa……gobitho ges di wylie’ braf!xx
Noson hollol hyfryd gyda Bwca a Lowri Evans yn Cegin Diod neithiwr!🫶🏼
Diolch am greu awyrgylch arbennig, a phob hwyl i chi gyd ar weddill y daith!❤️
Lee Mason Menter Dinefwr.
Mor hyfryd cael torri’r newyddion i Menna Williams neu “ Anti Menna” o Langernyw, ei bod yn derbyn Gwobr John a Ceridwen Hughes yn Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau ym Meifod eleni….ar ddiwrnod ei phenblwydd yn 80 oed!
Pobl yr ardal yn meddwl y byd ohoni!🙌🏼X
Ro’dd hi’n hyfryd cael aduniad gyda Morgan Jones 🏴🇪🇺 a Elin Manahan Thomas eleni eto yn Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth Arts Centre ar gyfer cystadleuaeth Côr Cymru 2024, a chwmni a chanu’r corau yn fendigedig!🥰
Pob lwc i bawb, y cyfan yn dechre’ heno am 8.00 ar S4C 🏴 gyda’r Corau ieuenctid!
Yr Eglwys yng Nghymru i atal gwerthiant Eglwys Mihangel Sant Llanfihangel-yng-ngwynfa - Sign the Petition! chng.it/Qp89KprQ via Change.org UK
Tase’ ni byth mewn trwbwl, fydde’ ni wrth y modd yn cael y criw arbennig yma o ferched o’m cwmpas!💪🏼
Diolch i gangen Merched y Wawr Brynamman!🥰
Cryf, doniol a chefnogol!
Hir oes i’r chwaeroliaeth ar #DiwrnodRhyngwladolyMerched
Gwenwch mae’n Ddydd Gwener!☺️
#DyddGwylDewi hapus iawn i chi gyd.🏴
Pob lwc i bawb sy’n rhan o Cân i Gymru heno….edrych mla’n yn fawr at wylio Trystan Ellis-Morris a Elin Fflur.🥰xx
Llongyfarchiade’ mawr i bawb sy’ wedi cyfrannu at y gyfrol hyfryd yma…..llawlyfr perffeth i unrhywun un sy’ ar fin trefnu priodas.🥰
Trystan Ellis-Morris, emma walford a Alaw Griffiths yn wych!xx
Diolch o galon i dîm hyfryd #borecothi ar Radio Cymru am y croeso a’r gefnogaeth drwy’r wthnos…..mae nhw’n griw arbennig iawn!❤️❤️
Pob lwc i Gymru fory!🏴
Ar benblwydd Uned 5 yn 30 oed, gwych yw cael bod yng nghwmni Garmon Emyr, un o gyflwynwyr gwreiddiol y rhaglen!
Mor lwcus i’w alw’n ffrind ar ôl yr hollol flynyddoedd! Seren!🌟
Edrych mla’n yn fawr at ddod nôl i Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth Arts Centre y penwthnos ‘ma ar gyfer cystadleuaeth Côr Cymru yng nghwmni Morgan Jones 🏴🇪🇺 a Elin Manahan Thomas.
Ambell docyn ar ôl…..am ddim!
Pob lwc i bob un o’r corau, a siwrne saff i Aberystwyth.☺️🎶
Bore bendigedig yn Llanddeusant, Sir Gâr….a chopaon Llyn y Fan Fach yn y Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog werth eu gweld.❤️
Diolch yn fawr iawn i dîm
bendigedig #borecothi am y croeso ar Radio Cymru drwy’r wythnos…ag i’r cyfrannwyr am y sgyrsie’ hyfryd!
Gobitho ges di Shân Cothi hoe dda dros yr Ŵyl!☺️
Blwyddyn Newydd Dda i bawb pan ddaw!🌟