
Cymraeg Bangor
@cymraegbangor
Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Bangor
ID: 2612078450
http://www.bangor.ac.uk/ysgolygymraeg/index.php.cy 08-07-2014 17:54:30
4,4K Tweet
1,1K Followers
665 Following








Cafodd ein myfyrwyr MA newydd ddiwrnod i’w gofio yn ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru yr wythnos hon. Diolch o galon i staff y Llyfrgell am eu croeso cynnes!


Yn dechrau meddwl beth i'w astudio yn y Brifysgol? Awydd gwybod mwy am wneud gradd yn y Gymraeg? Dewch draw i ddiwrnod agored Prifysgol Bangor ddydd Sul yma, 27 Hydref, i gael cyflwyniad i'r pwnc, sesiynau blasu, a chyfle i sgwrsio â darlithwyr a myfyrwyr presennol!



Llongyfarchiadau i un o ddarlithwyr yr Adran Gymraeg, Dr Non Mererid Jones, ar gyhoeddi ei nofel gyntaf. Bydd 'Merch y Wendon Hallt' yn cael ei lansio yn Llyfrgell Pwllheli, 13 Tachwedd, 7yh. Non Mererid Gwasg Carreg Gwalch Guto Dafydd Prifysgol Bangor


Llongyfarchiadau gwresog i un o gyn-fyfyrwyr Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor, Mared Fflur Jones, ar ennill cadair Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc! Llongyfarchiadau hefyd i Elain Iorwerth, un o fyfyrwyr presennol Prifysgol Bangor, ar ennill y goron. Prifysgol Bangor


Edrychwch beth sydd wedi cyrraedd! Llongyfarchiadau mawr i'r Athro Angharad Price ar gyhoeddi ei nofel ddiweddaraf, 'Nelan a Bo'. Bydd y lansiad ym Mhalas Print, nos Iau, 21 Tachwedd am 6pm. Mynnwch gopi o'ch siop lyfrau leol Y Lolfa Palas Print Cyngor Llyfrau Cymru Prifysgol Bangor


Blwyddyn 7 Ysgol Dyffryn Ogwen yng Ngŵyl y Gelli heddiw. Wedi mwynhau creu cymeriadau a chymryd rhan mewn sgets. #creadigrwydd #mwynhau ✍️📝 Cymraeg Bangor GwylYGelli


Croeso i ddisgyblion Ysgol David Hughes @ysgdyffrynconwy Ysgol Dyffryn Ogwen Ysgol GyfunLlangefni yn rhan o daith Sgriblwyr Cymraeg Hay Festival. Gweithdai gwych gyda @LeilaDoesTweets, Siôn Tomos Owen Anni Llŷn a thaith i weld trysorau Prifysgol Bangor yng nghwmni staff Archifau Prifysgol Bangor University Archives ac Ysgol y Gymraeg.


Diwrnod cyntaf llond profiadau i ddisgyblion Cymraeg Safon Uwch ar gwrs Cymraeg Bangor yng Nglanllyn. An excellent first day for our A Level Welsh students in North Wales! instagram.com/p/DCP7NZ1i8Fy/…

Diolch o galon i'r 165 o ddisgyblion a ddaeth o bob cwr o Gymru i'r Cwrs Chweched yng Nglan-llyn. Bu'n bleser cyfarfod pob un ohonoch. Gwersyll Glan-llyn @YrYsgwrn Coleg Cymraeg Cangen Bangor CCC Prifysgol Bangor


