1/3🧵
🏠Heddiw, mae Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn clywed ei sesiwn dystiolaeth gyntaf ar gyfer yr ymchwiliad i’r cyflenwad o tai cymdeithasol.
Mae ein herthygl o fis Chwefror yn esbonio beth mae'r ymchwiliad yn edrych arno.
➡️tinyurl.com/522nf8jn
Heddiw, bydd Aelodau'n trafod y ddeiseb fwyaf yn hanes Senedd Cymru, ar ddiddymu’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya.
Mae ein herthygl yn crynhoi digwyddiadau ers i'r polisi ddechrau a beth mae data monitro cynnar yn ei ddangos.
➡️tinyurl.com/4m5bjjrs
Pwysigrwydd Mawndiroedd a'u Diogelu yng Nghymru 🏴
Erthygl newydd gan Ymchwil y Senedd gan Dr Victoria Jenkins a Welsh Peatlands Research, sy'n esbonio pam mae adfer mawndiroedd yn allweddol wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd 💡
👉 bit.ly/YmchwilSenedd
Heddiw, bydd Senedd Cymru yn trafod adroddiad Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar daith menywod gyda chanser gynaecolegol.
Darllenwch ein herthygl sy’n canolbwyntio ar straeon 3 menyw eithriadol: Claire, Linda a Judith, a siaradodd yn ddewr am eu profiadau.
➡️tinyurl.com/mrxcurhn
Ydych chi'n barod ar gyfer yfory?
Mae 87 o welliannau i Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) i’r Pwyllgor eu trafod a phleidleisio arnynt.
Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen adnoddau newydd Ymchwil y Senedd 👇🏾:
ymchwil.senedd.cymru/erthyglau-ymch…
Oeddech chi'n gwybod bod gan Llywodraeth Cymru swyddfeydd tramor?
Neu pa wledydd a rhanbarthau yw ei pherthnasoedd blaenoriaeth?
Mae gan ein ffeithlun cysylltiadau rhyngwladol newydd yr atebion, a rhagor.
➡️tinyurl.com/26epusye
Ydych chi'n barod ar gyfer yfory?
Mae 199 o welliannau i Fil Seilwaith (Cymru) i’r Pwyllgor eu trafod a phleidleisio arnynt.
Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen adnoddau newydd Ymchwil y Senedd 👇🏾:
ymchwil.senedd.cymru/erthyglau-ymch…
Ymunwch â ni yr wythnos nesaf i glywed gan gydweithwyr o Ymchwil y Senedd, a fydd yn siarad am eu data a’r technegau y maent yn eu defnyddio i wneud yn siŵr ei fod mor hygyrch a chlir â phosibl...
👉 tocyn.cymru/cy/event/b040a…
Beth am ystyried Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw yn fanylach?
Dilynwch Ymchwil y Senedd o 13:30 ymlaen i gael lincs i erthyglau ymchwil a chael cipolwg ar y materion a godwyd wrth i Aelodau o’r Senedd ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog.